Priodas Catrin a Matt

[English]


Gobeithio y bydd llawer o storiau a lluniau o'r diwrnod arbennig yn ymddangos yn fan hyn.

I ddechrau pob dim, dyma'r penillion a berfformwyd gan Anwen, Carol, Cathryn, Gwawr a minnau fel cyflwyniad i Catrin a Matt.

I Catrin a Matt

Mae Catrin a Matt yn priodi,
Ac yma y deuwn i ddathlu
Yn Llanbedr, Powys
A Huw yn ei thywys
Yng nghwmni eu ffrindiau a’u theulu.

Yn Aber y daethom i’w ‘nabod
Yn gweithio yn galed a chanfod
Pleserau y byd
A’r diodydd i gyd
Cafodd radd mae hynny yn syndod!

  I briodas yr aethant eu dau
I wledda, dawnsio, mwynhau
Yn sydyn, mewn enaid
Cyfarfu eu llygaid
Mae cariad ers hynny’n parhau.

  Un handi yw Matt gyda’i ddwylo
Nid oedd yn hir cyn ei swyno
Ai forthwyl a’i gun
Ei fysyls a’i din
Mewn dim roedd wedi ei rhwymo.

  Yma yn griw llawn a llawen
O’r diwedd daeth terfyn i’r awen
Hir oes i’r cariad
Cyd yfwn i’r uniad
A bendith i’r ddau ar eu tandem.    

O'r diwedd, dwi wedi cael cyfle i scanio rhai o'r lluniau.

Paratoi

Barbaciw

Y Briodas


Luned Parry luned@gently.org.uk