Dwi'n gobeithio nad ydwi'n pechu unrhyw Americanwyr sy'n darllen hwn pan dwi'n dweud nad oedd Americanwyr yn un o fy hoff genedl y bore canlynol. Cefais fy neffro gan griw o blant Americanaidd (roedd yr acen yn amlwg braidd), yn rhedeg ac yn gweiddi y tu allan.
Fel arfer, fyddai hyn ddim yn fy mhoeni, ond roedd hi'n 7.30am ar fore Sadwrn a minnau'n diodda efo penmaenmawr! (am sioc!)
Fe wnes i orfodi fy hun i godi ychydif oriau'n ddiweddarach: hynny yw, symud i'r gegin i yfed lot o ddwr a coffu. Ddim fi oedd yr unig un oedd yn diodda'!
Gwaethygodd pethau ychydif bach pan wnaeth y larwm tân ganu! Dwi'n meddwl y bydd rhai ohonoch yn gallu gwrthfawrogi'r ffaith nad oedd y larwm yn rhywbeth poblogaidd iawn. Mae'r swn yn sgrech ofnadwy, gan wneud y cur pen yn ddeg gwaith gwaeth. Rhaid oedd credded o'r fflat ar y llawr uchaf, lawr y grisiau hyd nes cyrraedd yr awyr iach.
Roedd pawb yn rhegi braidd, ac yna, penderfynodd Emma Maesteg ymuno â ni.
Dwi'n meddwl fod fan hyn yn le de i egluro sut le oedd y fflat: roedd ymhob fflat 6 ystafell a gegin, gyda stafell molchi preifat ymhob stafell. Yn yr ystafell molchi roedd basn, toilet a cawod (bydd y pwyslais ar y gair hwn yn amlwg yn y munud).
Roedd Emma druan yn teimlo braidd yn giami, felly, fel yr eglurodd wrthym, roedd hi'n meddwl y byddai cael cawod yn syniad da, i'w deffro. Os ydach chi'n nabod Emma, mae'r hyn a ddigwyddodd wedyn yn hollol naturiol iddi hi. Fe wnaeth hi anghofio cau drws yr ystafell molchi. Doedd ganddi ddim digon o egni i sefyll i fyny yn y gawod, felly fe wnaeth hi eistedd i lawr, a bechod, gan ei bod wedi blino cymaint, fe wnaeth hi syrthio i gysgu. Roedd stêm yn cael ei gynhyrchu gan y gawod, a'r tu allan i'r drws yr oedd smoke detector. Felly:
Emma'n cysgu + cawod llawn stêm + drws agored + smoke detector = larwm tân
Luned Parry luned@gently.org.uk