Ar ôl llusgo ein hunain all o'r gwely, gwisgo a ballu, aethon ni lawr i'r dre ei hun. Roedd hi'n ddiwrnod barf, a phawb yn gwisgo sbectol haul gan fod yr haul lot rhy gry' i'n llygaid a'n penau bach ni!
Roedden ni wedi trefnu mynd i'r ganolfan hamdden lleol - Plas Crug - lle roedden ni am fynd i'r health suite. Gaethon ni amser amser braf, gan dreilio amser yn y sauna, jacuzzi, ac os oeddech chi'n ddigon lwcus i beidio llosgi'ch pen ôl (?!), y stafel stêm hefyd. Ond mae'n rhaid i mi eich cynghori i beidio gwneud hyn os oes gennych chi benmaenmawr, a braidd yn de-hydrated (be ydi'r gair Cymraeg??), achos mae hyn i gyd yn ei wneud yn waeth!
Y noson honno, aeth ni am bryd Eidalaidd, a cyn i ni hyd yn oed feddwl am fwyd, roedden ni wedi mynd drwy 4 jwg o ddwr (syched ydach chi'n gweld!). Roedd y pryd yn flasus iawn, a dwi hyd yn oed yn meddwl i rai pobl yfed alcohol. Fe wneathon ni hefyd roi presantau i Anwen.
Allan unwaith eto o gwmpas Aber, ond os fuasech chi wedi'n gwled, mi fyddach chi wedi meddwl ein bod yn drist iawn, gan na wnaeth yr un ohonom yfed lot o alcohol; noson sych bron iawn! Am noson ddiddorol eh?!
Luned Parry luned@gently.org.uk