Mae gen i sawl diddordeb i ddweud y gwir, ac un o'r prif rai yw darllen. Dwi'n gwybod nad yw'n ddiddordeb gwreiddiol iawn, ond ar y funud, dwi'n hoff o ddarllen llyfrau Stephen King.
Yn ogystal dwi'n hoff o wylio ffilmiau, boed hynny ar fideo neu drwy fynd i'r sinema. Ar hyn o bryd dwi'n hoff o ffilmiau Quentin Tarantino, ac rwy'n meddwl fy mod wedi gweld y rhan fwyaf o'i ffilmiau.
Er fy mod i'n 24, dwi dal i fwynhau mynd i barciau adloninant. Dwi wedi bod i Alton Towers sawl tro, i Blackpool, ac i un parc o'r enw Five Flags yn New Jersey. Eu prif atyniad hwy oedd y Great American Scream Machine: sgwn i sut cafodd o'r enw yna?!
Wrth gwrs, mae bod yn Gymraes yn bwysig iawn i mi., Wedi symud lawr i Wiltshire, nid wyf yn derbyn lllawer o wybodaeth am Gymru, ond rwyf yn derbyn y cylchgrawn Golwg yn wythnosol i ddal fyny â'r newydd o Gymru.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi bod yn brysur un ceisio hel ynghyd fy nhoeden deulu. Nid yw wedi ei orffen o bell ffordd, ond gobeithio y caf fynd y wybodaeth ynghyd cyn hir.