Dyma beth sydd wedi digwydd yn fy mywyd mor belled: Dwi wedi cael fy ngeni a fy magu yng Nghymru, gan gael fy ngeni ym Mangor yn 1973, byw yno am flwyddyn a hanner, cyn symud ymlaen i bentref yn Sir Fôn o'r enw Llandegfan.
Well i mi sôn am fy nheulu, yn enwedig f'annwyl chwaer Heledd (het!). Fe raddiodd ym Mangor mewn Cymraeg a Llên y Cyfryngau (Mehefin 1998), gan weithio i gwmni radio Champion 103FM ym Mangor am dros flwyddyn. Ar y funud mae'n gweithio i gwmni Antena yng Nghaernarfon.
Efallai bod rhai ohonoch wedi clywed am y pentref yma, gan fod dau berson eithaf adnabyddus yn byw yno. I ddechrau, ceir Edward Morris Jones, sydd yn enwog am ganu efo Dafydd Iwan (faint ohonoch sydd fel fi, a dal i wrando ar recordiau Cwm Rhyd y Rhosyn?). Yr ail berson enwog o'r pentref ydi Aled Jones. Roeddwn i yn yr ysgol uwchhradd efo Aled, a'i fam oedd fy athrawes ysgol gynradd.
Yna, bum yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy. Mae'n rhaid ei bod hi'n ysgol golew, gan fod pobl fel y Brodyr Emyr (Arthur, Garmon a Dafydd), Mathew Maynard, a Huw Garmon wedi mynd i'r un ysgol.

Wedi hynny aeth pethau lawr allt. Treilias dair mlynedd (1991 - 1994) hapus iawn yn Aberystwyth, lle cefais radd yn y Gymraeg.
Wedi treilio tair mlynedd gorau fy mywyd yn Aber yn yfed llawer gormod, penderfynais ei bod yn hen bryd i mi benderfynu pa yrfa yr oeddwn i am ei dilyn. Felly es i i'r Coleg Normal ym Mangor am flwyddyn i ddilyn cwrs TAR.
A dyna ni i ddweud y gwir mor belled. Ar hyn o bryd, dwi'n byw mewn tref yn Wiltshire (do, dwi wedi bod yn ddewr ac wedi croesi Clawdd Offa!), yn Swindon. A'r rheswm dwi wedi symud lawr fan hyn? Dyn wrth gwrs, o'r enw Andy (fe wnes i adddo iddo y buaswn i'n son amdano rywbryd!)
Wedi symud lawr fan hyn, dwi wedi bod yn ddigon gwirion(!) i fod isio dysgu plant. Bum yn gwenud tipyn o waith llanw yn yr ardal, ond rhwng Ebrill a Gorffennaf 1996 bum yn gweithio mewn ysgol yn Swindon, yn Pinehurst. Am ysgol diddorol!!! Un o'r uchafbwyntiau yn yr ysgol oedd cael cyfarfod Kriss Akabusi. Chwarae teg iddo fo, wnaeth o ddim chwerthin.

Wedi gwneud mwy o waith llanw yn yr ardal, dwi wedi bod yn lwcus o'r diwedd i gael swydd mewn tref fechan o'r enw Wroughton, tua 5 milltir o Swindon.
Un o fy ffrindiau pennaf lawr fan hyn ydi Michelle.